Freedom Central » Iaith Cymraeg

“Iaith fyw a llewyrchus”
Araith Eleanor Burnham AC yn nadl LCO’r Iaith Gymraeg:

Bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cefnogi’r LCO hwn gan ein bod yn credu mai yma, yn y Cynulliad, y dylai materion yr iaith Gymraeg gael eu penderfynu.

Bydd yr LCO hwn yn gam – er yn gam bach – i’r cyfeiriad hwnnw. Gan gadw hyn mewn cof, rwy’n cynnig y gwelliannau yn enw Peter Black. Er hynny, mae dau fater ynglŷn â’r LCO hwn yn peri pryder i mi ei gwmpas a’r broses o’i ddarparu.

Rwy’n credu bod angen ar y Cynulliad hwn y pwerau ehangaf bosibl i amddiffyn a meithrin yr iaith Gymraeg. Mae gennym ddyletswydd i ofalu bod y Gymraeg ar gael i genedlaethau’r dyfodol, a’i bod yn iaith fyw a llewyrchus. Mae angen hefyd i ni ofalu bod y bobl hynny sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg, yn gallu arfer eu hawl i wneud hynny.

Ni all Cymru ddibynnu ar gael cydweithrediad San Steffan bob tro’r ydym yn dymuno diweddaru deddfwriaeth. Dyna pam mae angen i ni allu pasio Mesurau yma heb orfod datblygu LCO newydd bob tro. Os edrychwch ar adroddiad Pwyllgor Deddfwriaeth rhif 5, mae wedi cymharu sefyllfa Cymru â’r sefyllfa mewn gwledydd eraill, ac wedi dod i’r casgliad y byddai pwerau ehangach yn ein galluogi i sefydlu polisi mwy egnïol ar gyfer yr iaith Gymraeg. Buasai’n well gen i gael system heb gyfyngiadau na ymyrraeth San Steffan.

Mae wedi cymryd dros dwy flynedd i gyrraedd y fan hon a fyddwn i ddim yn dymuno ein gweld ni’n ceisio diweddaru’n deddfwriaeth ar gyfer y Gymraeg ymhen ychydig flynyddoedd a gorfod mynd â’n cap yn ein llaw at San Steffan unwaith eto. Yn anffodus, bydd yr etholiad gyffredinol mewn ychydig fisoedd yn ymyrryd ar y broses LCO yma. Os na fyddwn yn cefnogi hwn heddiw, bydd hi’n annhebygol y byddwn yn gallu cael y pwerau iaith Gymraeg yn nhymor Cynulliad yma. Ni allwn alluogi hyn ddigwydd.

Dylai’r system LCO a Mesurau yma ganiatáu i ni gynllunio Mesurau yr ydym ni am eu gweld, yn hytrach na’r rhai sy’n rhan o gylch gwaith y Pwyllgor Materion Cymreig. Er enghraifft, mae’n gwestiwn gen’ i a ddylid cynnwys y ddarpariaeth yn yr LCO ar gyfer apelio ar sail yr hyn sy’n rhesymol a chymesur.

Mae’r cyngor a dderbyniasom y bore ‘ma yn feirniadol iawn o’r feto yma a nid dyma yw rôl y eLCO – sef tanseilio rhannau o Deddf  Yr Iaith Gymraeg. Bydd rhaid i’r Gweinidog fod yn ofnadwy o ofalus sut y mae’n deddfu yn y dyfodol, ac rwy’n gobeithio’n arw y bydd o’n ystyried hyn pan yn mynd ati i greu Mesur.

Mae’n rhaid i mi ddweud hefyd nad rol LCO yw i benderfynu sut yr ydym yn deddfu.  Rol y broses LCO yw i benderfynu os ydym am gael y pwerau neu beidio. Mae’r LCO ger ein bron heddiw yn bell o fod yn berffaith, ond mae’n well na ddim byd.

O ran y system ei hun, mae gen’ i bryderon ynghylch y modd y mae’r Gweinidog yma, (a wnes i erioed ddisgwyl dweud hyn am Weinidog o Blaid genedlaetholgar) wedi derbyn argymhellion y Pwyllgor Materion Cymreig yn ddi-gwestiwn, heb wneud unrhyw ymdrech i bledio achos Cymru na Chynulliad Cymru. Enghreifftiau o hyn yw cynnwys trothwy uwch yn yr LCO ar gyfer sefydliadau sy’n derbyn arian cyhoeddus, y prawf “rhesymol a chymesur” neu eithrio sefydliadau cynhyrchu a thrawsyrru ynni.

Yn yr un modd, mae hyd y broses yn chwerthinllyd. Mae wedi cymeryd dros dwy flyned, gan gynnwys oedi afresymol, a dibwrpas yn y pen draw, trwy anfon yr LCO at yr Uwch-Bwyllgor Cymreig, er gwaethaf protestiadau Peter Hain i’r gwrthwyneb. Nid Llywodraeth effeithiol mo hyn.

Yn olaf, rwy’n siomedig na chafwyd cyfle gwirioneddol i’r Cynulliad hwn gyflwyno gwelliannau i’r LCO hwn. Er bod y Siambr hon yn craffu ar Fesurau yn drwyadl, ni chafodd y Cynulliad fawr o gyfle i gyfrannu at y broses hon.Er bod adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth trawsbleidiol yn un academaidd a thrylwyr, ni chafodd effaith o gwbl ar yr LCO hwn. Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac nid Swyddfa’r Gweinidog, ddylai weithredu fel deddfwrfa’r wlad hon.

Byddaf yn cefnogi’r cynnig hwn gyda chalon drom achos fy mod i’n credu fod yr iaith Gymraeg y llawer rhy bwysig i gael ei ddefnyddio fel arbrawf cyfreithiol. Wedi heddiw, credaf fod angen i bob un ohonom ddysgu gwersi at y dyfodol.

No related posts.